Isaiah 33

Bydd Jerwsalem yn saff

1Gwae ti'r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio;
ti'r bradwr sydd heb gael dy fradychu!
Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio;
pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu!
2O Arglwydd, bydd yn drugarog wrthon ni!
Dŷn ni'n disgwyl amdanat ti.
Bydd di yn nerth i ni yn y bore,
ac achub ni pan dŷn ni mewn trwbwl.
3Pan wyt ti'n rhuo mae pobl yn ffoi!
Pan wyt ti'n codi mae cenhedloedd yn gwasgaru!
4Mae'r ysbail maen nhw'n ei adael yn cael ei gasglu
fel petai lindys neu haid o locustiaid wedi disgyn arno.
5Mae'r Arglwydd mor ardderchog!
Mae'n byw yn yr uchelder!
Mae'n llenwi Seion
gyda chyfiawnder a thegwch.
6Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser.
Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth,
a pharch at yr Arglwydd – dyna ei drysor iddi.
7Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan!
Mae negeswyr heddwch yn wylo'n chwerw!
8Mae'r priffyrdd yn wag!
Mae'r teithwyr wedi diflannu!
Mae'r cytundebau wedi eu torri,
a'r tystion yn cael eu dirmygu.
Does dim parch at fywyd dynol.
9Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano!
Mae Libanus yn crino a gwywo!
Mae Saron fel anialwch,
a Bashan a Carmel wedi colli eu dail.

Yr Arglwydd yn rhybuddio ei elynion

10“Dw i'n mynd i godi nawr,” meddai'r Arglwydd,
“Dw i'n mynd i godi i fyny, cewch weld mor uchel ydw i!
11Dim ond us dych chi'n ei feichiogi;
dim ond gwellt fydd yn cael ei eni!
Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi!
12Bydd eich pobl fel calch wedi ei losgi,
neu ddrain wedi eu torri a'u rhoi ar dân.
13Chi sy'n bell i ffwrdd,
gwrandwch beth dw i wedi ei wneud!
A chi sy'n agos,
gwelwch mor nerthol ydw i.”

14Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn,

Mae'r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn.
“Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma?
Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?”
15Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn
ac yn dweud y gwir,
sy'n gwrthod elwa drwy dwyll,
na derbyn breib,
yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed,
ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg.
16Person felly fydd yn saff rhag y cwbl,
a chreigiau uchel yn gaer o'i gwmpas.
Bydd bwyd yn cael ei roi i'w gynnal
a bydd digonedd o ddŵr iddo.

Y dyfodol gwych

17Byddi'n gweld brenin yn ei holl ysblander,
a thir eang yn ymestyn i'r pellter.
18Byddi'n cofio am yr ofn a fu unwaith,
“Ble mae'r un oedd yn cyfri'r trethi?
Ble mae'r un oedd yn pwyso'r arian?
Ble mae'r un oedd yn cyfri'r tyrau?”
19Fyddi di ddim yn gweld y bobl farbaraidd yna eto –
yn siarad iaith doeddet ti ddim yn ei deall,
ac yn paldaruo'n ddiystyr.
20Dychmyga Seion,
dinas ein gwyliau crefyddol!
Byddi'n gweld Jerwsalem
fel lle tawel i fyw –
pabell does dim rhaid ei phacio,
gyda pegiau fydd neb yn eu tynnu byth eto,
a rhaffau fydd byth yn torri.
21Bydd yr Arglwydd yno gyda ni yn ei fawredd!
Ardal o afonydd a ffrydiau llydan yn llifo,
ond heb longau gali sy'n cael eu rhwyfo
na llongau hwylio mawr yn mynd heibio.
22Yr Arglwydd ydy'n barnwr ni,
Yr Arglwydd ydy'n llywodraethwr ni,
Yr Arglwydd ydy'n brenin ni –
fe ydy'r un fydd yn ein hachub ni!
23Byddi'n cael dy ddarn o dir
a fyddan nhw ddim yn gallu gosod eu polyn fflag
na chodi eu baner yno.
Bydd digonedd o ysbail i gael ei rannu,
a bydd hyd yn oed y cloff yn cael ei siâr.
24Fydd neb sy'n byw yno'n dweud, “Dw i'n sâl!”
Bydd y bobl sy'n byw yno
wedi cael maddeuant am bob bai.
Copyright information for CYM